Croeso i Le Crack – y clwb cabaret salw allwch chi ddim peidio â’i garu.
Cropiwch o dan y waliau a sgrialwch i mewn ar gyfer soiree o fwrlésg deniadol, perfformiadau awyr beiddgar, gwyrni plygu rhywedd a band tŷ a fydd yn gwneud i chi wichian mewn pleser. Wedi’i gyflwyno gan eich penarglwydd tanddaearol, llais y fermin – y Rat King!
Mentrwch i mewn os ydych chi’n meiddio. Dewch, rhowch eich teganau i lawr ac ymunwch â’r creaduriaid rhyfedd yng nghuddfan y Rat King...
Mae NUTCRACKER (the alternative cabaret) yn stori gariad gwiar a throad i oedolion ar glasur Nadoligaidd. Wedi’i gyfarwyddo gan Juliette Manon, gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol gan Sam Roberts a Heledd Watkins o HMS Morris, a pherfformiadau tywyll pleserus gan Len Blanco, Diomede, Cadbury Parfait, Rotten Peach a Daisy Williams.
Yn seiliedig ar stori tylwyth teg wreiddiol E.T.A. Hoffmann o 1816 The Nutcracker and the Mouse King, bydd y profiad cabaret ymdrochol yma yn gwyrdroi normau ac yn myfyrio ar y da, y drwg a’r prydferth yn ein byd modern.
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon.
Juliette Manon (nhw) – Cyfarwyddwr
Mae Juliette yn gyfarwyddwr ac artist amlddisgyblaethol cwiar anneuaidd o ogledd Cymru. Yn ddiweddar maen nhw wedi cwblhau preswyliad yn Theatr Clwyd fel derbynnydd Hyfforddeiaeth Carne i Gyfarwyddwyr yng Nghymru (22–24), ar ôl hyfforddi’n flaenorol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd a Phrifysgol Manceinion. Maen nhw’n frwdfrydig am lwyfannu lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac adrodd straeon rhyfeddol a gwirion drwy lens haniaethol.
Mae eu gwaith diweddar fel Cyfarwyddwr yn cynnwys: Lydia Merch y Cwilt (Eisteddfod Genedlaethol Cymru), Dysgu Hedfan (BBC/It’s My Shout), Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd (Y Cwmni), Ie Ie Ie (Theatr Genedlaethol Cymru).
Fel Cyfarwyddwr Cyswllt/Staff: The Great Gatsby (Theatr Clwyd a The Guild of Misrule), Truth or Dare (Theatr Clwyd), The In-Between, (Theatr Clwyd a NYTW).
Amser dechrau: 8.30pm
Matinee 31 Rhagfyr 3.30pm
Rhagddangosiadau: 3 + 4 Rhagfyr £15
Hyd y perfformiad: I'w gadarnhau
Cyfyngiad oedran: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy’n fflachio
Hygyrchedd:
Caiff perfformiadau dydd Mercher 11 a dydd Mawrth 31 Rhagfyr eu dehongli i BSL gan Nikki Harris
Caiff perfformiad dydd Mercher 18 Rhagfyr ei sain ddisgrifio gan Ioan Gwyn.
IECHYD DA!
Drysau ar agor 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau ac archebu diod drwy ein ap. Gallwch archebu drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3 (ac eithrio rhagddangosiadau)
CYNNIG GRWPIAU
Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd (ac eithrio rhagddangosiadau)
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad