Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Wicked Witch of the West on stage in Wicked

Danteithion Nos Galan Gaeaf

Mae gennym ni ddigwyddiadau iasol i chi eu mwynhau dros yr wythnosau sy’n arwain at Nos Galan Gaeaf.

Ymunwch â ni am hwyl arswydus, drama newydd iasol a rhagor o driciau a danteithion theatraidd…

Wicked

Bydd y sioe gerdd hynod boblogaidd, Wicked yn hedfan yn ôl i Fae Caerdydd i ledaenu ei hud gyda mis o berfformiadau, 24 Hydref – 23 Tachwedd. Mae’r sioe eiconig sydd wedi ennill gwobrau yn dychmygu stori gefndirol y ffrindiau annhebygol, Glinda The Good a’r Wicked Witch of the West, o stori glasurol ‘The Wonderful Wizard of Oz’.

PONTYPOOL

Mae hi’n bwrw eira un Diwrnod Santes Dwynwen, ac mae arswyd yn y gwynt ym Mhont-y-pŵl...

Yn seiliedig ar y ddrama radio wreiddiol gan Tony Burgess a ysbrydolodd y ffilm arswyd boblogaidd o 2008, mae PONTYPOOL yn addasiad llwyfan newydd sbon gan Hefin Robinson o’r stori a drawsnewidiodd y genre sombi. Mentrwch brynu tocyn ar gyfer ein cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru diweddaraf, 30 Hydref – 16 Tachwedd.

CŴM RAG: NOS GALAN GAY-AF

I oedolion yn unig, mae cwfen drag gorau Cymru, CŴM RAG wedi atgyfodi ac yma i ddathlu Nos Galan Gaeaf gyda chi. Byddwch yn barod am ferched ffiaidd, brenhinoedd drag direidus a lleisiau fampiraidd. Rydyn ni wedi’ch rhybuddio. (26 Hydref.)

HOUSE OF DEVIANT AFTER DARK: 'SLAY'ANCE

Ymunwch â ni ar gyfer 'slay'ance a fydd yn eich rhewi at fêr yr esgyrn. Dyma sioe sy’n llawn dop â ‘death drops’, meimio ysblennydd a threfnau dawnsio a fydd yn gwneud i chi ddweud “YASSS WITCH!” House of Deviant yw grŵp drag anableddau dysgu cyntaf Cymru. (1 Tachwedd.)

A tra eich bod chi’n darllen, dyma ddyddiad i chi nodi ar y calendr. Os ydych chi’n hoff o arswyd, ni ddylech fethu Ghost Stories, y llythyr cariad eithaf i arswyd, sy’n dod i’n llwyfan flwyddyn nesaf. Dyma sioe sy’n sicr o roi croen gwŷdd i bawb. Dyma sioe i’r dewrion yn ein plith. A fyddwch chi’n mentro? (29 Gorffennaf – 2 Awst 2025).

Eisiau bod ymhlith y cyntaf i wybod am sioeau a digwyddiadau newydd sydd ar y gweill? Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.