Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

27 – 30 Mai 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2247

Platfform

Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth

14 – 25 oed

27 – 30 Mai 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Wyt ti’n 14–25 oed ac oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut i saethu dy fideo cerddoriaeth dy hun?

Ymuna â ni am gyfres o weithdai dynamig a chyflym lle byddi di’n gweithio drwy hanfodion saethu fideos cerddoriaeth creadigol. Paratoi shots, golygu, goleuo, cyngor cyn cynhyrchu – byddi di’n dysgu am bob rhan o’r broses greadigol. Byddi di’n cael profiad ymarferol gydag offer proffesiynol ac yn cael cyfle i roi dy stamp creadigol dy hun ar y fideos terfynol.

Mae’r cwrs carlam yma yn cael ei arwain gan y fideograffydd Jamie Panton sydd wedi dysgu wrth weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, a fydd yn rhoi popeth sydd ei angen arnat ti i ddechrau saethu dy fideos dy hun.

Yn ogystal â sgiliau ymarferol, byddi di hefyd yn dysgu am theori ffilm a sgiliau trosglwyddadwy eraill – felly hyd yn oed os nad oes gen ti offer, galli di drosglwyddo beth fyddi di’n ei ddysgu o’r cwrs yma i dy waith dy hun.

PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?

Mae Jamie Panton wedi bod yn gweithio’n llawrydd fel fideograffydd am ddegawd. Ar ôl dechrau gydag ychydig iawn o arian a dim ond un DSLR a recordydd sain, mae’n deall sut i weithio i gyllidebau tyn a datblygu busnes fideo newydd. Mae’r rhan fwyaf o’i waith yn ymwneud â saethu rhaglenni dogfen a fideos cerddoriaeth, yn ogystal â rhywfaint o waith corfforaethol. Mae’n frwdfrydig am greu rhaglenni dogfen personol, gan greu darnau am drafferthion iechyd meddwl yn aml, a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau mae pobl yn eu hwynebu. Galli di weld o’i waith fideos cerddoriaeth bod Jamie yn dwli ar sinema avant-garde a hen ffilmiau anhysbys.

Mae Jamie yn dwli ar addysgu a throsglwyddo ei frwdfrydedd dros greu fideos a gweld pa syniadau sydd gan ddysgwyr yn ystod ei weithdai dynamig a chyflym.

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

PRYD MAE’R CWRS?

27 i 30 Mai, 12pm - 6pm.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pedwar diwrnod.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr

14 – 25 oed

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

Platfform

Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth

14 – 25 oed

Person sat at a radio studio mixing desk

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm

Hyfforddiant Radio

Dewch i greu am ddim