Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ffilm Platfform: Creu Ffilmiau Arswyd

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

28 – 31 Hydref 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Ffilm Platfform: Creu Ffilmiau Arswyd {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2376

Platfform

Ffilm Platfform: Creu Ffilmiau Arswyd

14 – 25 oed

28 – 31 Hydref 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Yn galw gwneuthurwyr ffilmiau arswyd!

Wyt ti’n barod i blymio i mewn i fyd creu ffilmiau arswyd? P’un a wyt ti’n ddechreuwr llwyr neu wedi rhoi cynnig ar greu fideos o’r blaen, dyma dy gyfle i ryddhau dy greadigrwydd a dysgu crefft saethu ffilmiau arswyd iasoer!

Ymuna â ni am gyfres o weithdai dynamig a chyflym 28–31 Hydref lle byddi di’n cael profiad ymarferol gydag offer soffistigedig ac yn dysgu hanfodion llunio straeon arswydus ar y sgrin. O feistroli’r camera i roi dy farc unigryw ar y fersiwn terfynol, byddi di’n creu dychryniadau sinematig mewn dim o dro!

Yn berffaith i’r rhai a gymerodd ran yn ein cyrsiau fideo cerddoriaeth a ffilmiau dogfen yn gynharach eleni neu unrhyw un newydd sy’n awyddus i ddysgu. Byddi di ddim yn unig yn meithrin sgiliau creu ffilmiau ymarferol ond hefyd yn ymchwilio i theori ffilmiau a thechnegau creadigol eraill byddi di’n gallu eu defnyddio’n hawdd yn dy brosiectau dy hun hyd yn oed os nad oes gennyt ti offer o’r radd flaenaf.

Paid â cholli allan ar y cyfle gwych yma! Cofrestra heddiw ac ymuna â ni am bedwar diwrnod cyffrous o greu ffilmiau arswyd!

PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?

Bydd Jamie Panton, fideograffydd â degawd o brofiad, yn dy arwain di ar bob cam o’r ffordd. Ar ôl dechrau diymhongar gyda dim ond DSLR a recordydd sain, mae Jamie yn gwybod sut i greu hud heb lawer o arian. Mae ei waith yn cynnwys ffilmiau dogfen, fideos cerddoriaeth a phrosiectau corfforaethol, gan ganolbwyntio’n aml ar straeon personol am iechyd meddwl. Gyda chariad at sinema avant-garde, mae brwdfrydedd Jamie dros greu ffilmiau yn heintus, a dyw e methu aros i weld beth fyddi di’n ei greu yn ei weithdai.

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

PRYD MAE'R CWRS?

28 – 31 Hydref, 12pm – 6pm.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y pedwar diwrnod.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Sesiwn Castio Agored Next Up Academy

16 – 25 oed

Platfform

Cyflwyniad i godi arian ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol

18 – 25 oed

Platfform

Ffilm Platfform: Creu Ffilmiau Arswyd

14 – 25 oed

Platfform

Diwrnod CREU XR

16 – 25 oed

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth