Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Person sat at a radio studio mixing desk

Platfform

Hyfforddiant Radio Platfform

11 – 25 oed

Radio Platfform

7 Tachwedd – 12 Rhagfyr 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Hyfforddiant Radio Platfform {{::on_sale_date.label}} Radio Platfform MM/DD/YYYY 15 event-2396

Platfform

Hyfforddiant Radio Platfform

11 – 25 oed

7 Tachwedd – 12 Rhagfyr 2024

Radio Platfform

Ar y cwrs hyfforddi hwn sy'n chwe wythnos o hyd, byddwch yn dysgu sut i greu rhaglen radio neu bodlediad. Mae'r cwrs yn un achrededig, gyda'r cyfle i chi gyflawni Agored Cymru Unit.

Byddwch hefyd yn dysgu am y mathau gwahanol o gynnwys radio, sut i hel a chreu straeon newyddion, a chreu recordiadau o ansawdd uchel. Rhowch gynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sydd o bwys i chi.

P’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu â dim profiad o’r cyfrwng, mae’r cwrs yma wedi’i deilwra i’ch cefnogi chi, beth bynnag eich lefel o brofiad.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae croeso i’r cyfranogwyr ymuno â thîm Radio Platfform – i gyflwyno, creu sioeau ar gyfer yr orsaf ac ymwneud â digwyddiadau ecsgliwsif i aelodau Radio Platfform.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 11 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm dros chwe wythnos yn dechrau 7 Tachwedd 2024.

Unwaith i chi gofrestru, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 7 Tachwedd, 14 Tachwedd, 21 Tachwedd, 28 Tachwedd, 5 Rhagfyr a 12 Rhagfyr a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.

Cyfyngiad oedran: 11 – 25 oed

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Radio Platfform

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Cyflwyniad i godi arian ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol

18 – 25 oed

Platfform

Ffilm Platfform: Creu Ffilmiau Arswyd

14 – 25 oed

Platfform

Diwrnod CREU XR

16 – 25 oed

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

Person sat at a radio studio mixing desk

Platfform

Hyfforddiant Radio Platfform

11 – 25 oed