Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae ein bar-caffi a weddnewidiwyd yn ddiweddar yn ymestyn ar hyd blaen yr adeilad. Yn olau, eang a soffistigedig, mae Ffwrnais yn cynnig y cynnyrch gorau o bob rhan o Gymru.

Mae’r gofod yn cynnwys byrddau cymunol hir ar gyfer cydweithio, lolfa gyda seddi cyfforddus sy’n berffaith ar gyfer derbyniadau, a chwtsh clyd sy’n lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau llai, megis clwb darllen. Mae rhaglen o arddangosfeydd newidiol yn cyflwyno artistiaid o Gymru ac artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, ac fe gynlluniwyd y clustogau arbennig gan wehydd lleol, Llio James. 

Fe ddefnyddir Ffwrnais yn aml ar gyfer ffilmio golygfeydd megis maes awyr, mynedfeydd ac ysbytai, ac mae’n lleoliad gwych ar gyfer lletygarwch ar ôl seremonïau gwobrwyo a chynadleddau a gynhelir yn Theatr Donald Gordon. 

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:  
Derbyniad / Arddangosfa:  400
Gwledda:  160
 
Dimensiynau:  609m2 
   
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd: Ystafell gotiau