Dewch i fwynhau hwyl yr ŵyl yn ein Gweithdy Crosio Addurn Nadolig!
Pa un ai a ydych yn brofiadol neu'n crosio am y tro cyntaf, mae'r gweithdy yma'n berffaith i chi. Bydd cyfle i bawb sy'n cymryd rhan ddewis eu lliwiau ac fe fyddwn yn eich tywys chi gam wrth gam drwy'r broses o greu addurn Nadolig pwyth crosio nain (granny stitch).
Dewch â'ch creadigrwydd a'ch llawenydd, ac fe wnawn ni greu rhywbeth arbennig gyda'n gilydd!
Am ddim ond mae angen tocyn.
Amseroedd dechrau: 11am + 2pm
Yn addas i: Gychwynwyr a'r rheiny sy'n brofiadol yn crosio
Oed: 8+
Hyd y gweithdy: 3 awr
Yr hyn a fyddwch yn ei gael: Cyfarwyddiadau wedi'u teilwra i chi ac addurn a wnaed â llaw i fynd adre gyda chi