Ahoi gyfeillion! Gwrandwch ar chwedl yr Odyssey Inn...
Pan ddangosa Billy hen fap trysor i Jemima, mae antur yn eu haros. Yn fuan mae ein harwyr yn hwylio’r moroedd mawr ar daith fydd yn eu clymu am byth.
Stormydd. Gwylanod. Brwydrau â chleddyf. Allan nhw ymdopi â’r daith fentrus yma a dod o hyd i’r trysor cudd...?
Ymunwch â grŵp theatr cymunedol Hijinx, Odyssey, ar antur fyrlymus wedi ei hysbrydoli gan ‘Ynys y Trysor’ Robert Louis Stevenson. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb fod yn anabl, mae’r sioe deuluol hon yn llawn o gomedi, cyffro a cherddoriaeth wreiddiol.
Ond cofiwch... gwyliwch y cracen!
Amser dechrau:
Iau – Sad 7pm
Sad 3pm
Hyd y perfformiad: Tua 70 munud
Canllaw oed: 5+
Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad gan Alistair Sill ar gael ym mhob perfformiad.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.
BABANOD AR LINIAU
Rhad ac am ddim – archebwch le gan ddenfyddio'r opsiwn tocyn 'Safonol a babi'. Ar gael i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod.
CYNNIG I BOBL O DAN 16, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £6
CYNNIG I GRWPIAU + YSGOLION
Gostyngiad o £6 i grwpiau 10+. Trefnu ymweliad grŵp.
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd