Paratowch bobl Caerdydd! Mae Meseia Cabaret Andrew Pepper yn dod amdanoch chi!
Mae’n bosibl bod Andrew Pepper newydd gerdded allan o ystafell arddangos yn Las Vegas rywbryd yn y 70au... Neu efallai ei fod newydd gamu oddi ar lwyfan Olympia Paris, tua 1962. O bosib, mae wedi dod yn syth o gystadlu â Dan Ero mewn neuadd gerddoriaeth Fictoraidd. Wedi dweud hynny i gyd... efallai ei fod newydd gamu allan o dudalennau nofel Roald Dahl.
O ble bynnag y daeth e, mae’n berson unigryw mae’n rhaid i chi ei weld i'w gredu.
Wel, yn lwcus, gallwch chi wneud hynny...
Felly gwisgwch eich Tena Lady, ymbinciwch a pharatowch i gael eich codi’n uwch na Wayne Rooney mewn twtw wrth i Pepper ddatgelu ei sioe gomedi cerddorol, Duw mae’r trowsus yna’n dynn, doniol ac emosiynol i CHI!
Gydag Alex Maynard ar y piano a Tristan Butler ar y drymiau.
“A one off, daring to go further than you ever imagined a performer would”
“A dazzling and meticulously executed display of shape-shifting showmanship”
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, synau uchel a goleuadau sy’n fflachio bosibl
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.