Sioe gerdd gyfareddol sy’n plethu straeon o blentyndod bachgen “sensitif” mewn tre lofaol yng Nghymru’r wythdegau yw Outside, gyda pherfformiadau a threfniannau unigryw o ganeuon gorau George Michael.
Caiff Outside ei chyflwyno a’i pherfformio gan yr actor a’r canwr clodwiw Morgan James, ac mae’n dilyn rhes o berfformiadau a werthodd bob tocyn yn The Crazy Coqs, lleoliad blaenllaw yn Llundain ar gyfer cerddoriaeth fyw.
Fel rhywun sy’n hoff iawn o George Michael, mae Morgan yn cynnig gwerthfawrogiad dwfn o athrylith ei waith cyfansoddi – gan ddathlu’r dyn a’i gerddoriaeth. Drwy drefniannau cerddorol syfrdanol gan yr enwog Noam Galperin, mae llais Morgan yn ffurfio trac sain i eiliadau hanfodol ei fywyd – o bori trwy’r recordiau yn Woolworths i ddelio â byd cystadleuol actio, ac yn y pen draw cofleidio ei hunaniaeth fel dyn hoyw sydd allan ac yn falch.
Mae Outside yn mynd â ni ar daith emosiynol a cherddorol hyfryd!
‘Morgan James simply commands the stage’
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref a goleuadau sy’n fflachio bosibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.