Dychmygwch e: Caerdydd. 2024
Mae Sophia Petrillo wedi mynd ar goll! Mae’n rhaid i’ch cyfeillion annwyl Dorothy, Blanche, a Rose deithio i lawr y lôn ac yn ôl unwaith eto ar draws America i ddod o hyd iddi. Mae’r hen neiniau hip yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy hoff raglenni gêm y Golden Girls!
Gwisgwch eich cap ffeithiau oherwydd bydd aelodau lwcus o’r gynulleidfa yn cymryd rhan yn y cystadlu, gan ryngweithio’n uniongyrchol gyda’r menywod mynwesol a chystadlu i ddod y #TokenSophia nesaf.
Grab That Dough! Love Connection! Jeopardy Dream Sequences! Oh My! Toto, we’re not in Miami anymore, sugar.
Ar ôl ymddangos am y tro cyntaf yn DragCon NYC 2017 RuPaul, allwn ni ddim aros i groesawu’r Golden Gays o Efrog Newydd i Cabaret ar eu taith ledled gwledydd Prydain fis Medi!
"The Golden Gays are simply wonderful. I cannot recommend them highly enough. Go! You will have a fabulous time. Go!"
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, synau uchel
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.