Ydych chi erioed wedi gweld ‘Theatr Rygbi Stand-yp’? Na, do’n i ddim yn meddwl y byddech chi.
Mae wedi bod yn syfrdanu’r byd rygbi’n dawel bach, ac rydyn ni mor falch o fod yn cynnal dangosiad cyntaf y sioe yng Nghymru yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’n ‘blydi gwych’ meddai Ugo Monye.
Caiff y noson ei chreu a’i pherfformio gan yr actor comedi o Brydain Stewart Wright (Doc Martin, Smack the Pony, Bridget Jones’ Diary), sydd â’i stori rygbi ei hunan ac sy’n dod â chymeriadau ac eiliadau o gemau rygbi rhyngwladol yn fyw ar ffurf cwis.
Mae Benoit Kirby, dyfarnwr Ffrengig gwefreiddiol y noson, hefyd yn ein swyno gyda’i ystod ryfeddol o ddoniau – gan gynnwys jyglo, cerddoriaeth pibgod, canu, a’r cerdyn melyn achlysurol.
Yn serennu yn y noson unigryw yma mae Cliff Morgan, Jim Telfer, Rassie Erasmus, Bill McLaren a mwy.
Pris tocynnau yw £12 fesul person a gall timau o 2–6 person gymryd rhan. Os yn bosibl, archebwch docynnau eich tîm cyfan mewn un archeb fel y gallwn ni gael syniad o nifer y timau sy'n cymryd rhan ar y noson. Diolch!
"The many faces and voices of rugby all in one room, seriously good"
"Heartily recommended"
"Pure unadulterated rugby delight"
Amser dechrau: 7.30pm, drysau 6.30pm
Oed: 16+
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.