Twtiwch eich plu yn barod i brofi adar yn dawnsio, tiwns bachog, a digon o chwerthin! Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn Rhyfel Mawr yr Emiwiaid yn 1932, mae ein sioe gerdd gomedi yn dilyn ymdrechion ofer llywodraeth Awstralia i frwydro yn erbyn emiwiaid direidus...
Dyma’r tro cyntaf yn Cabaret i’r cast, sy’n byw ym Mryste a’u hanner yn dod o Gymru. Shwmae! Mae The Emu War eisoes wedi’i enwi gan Playbill fel un o’u dewisiadau rhyngwladol gorau ar gyfer Gŵyl Cyrion Caeredin – os na all hynny ac emiwiaid yn dawnsio eich denu chi draw, wn i ddim beth wnaiff.
“Hilarious and full of heart”
Amser dechrau:
Sad 20 Gorffennaf 7pm
Sul 21 Gorffennaf 4pm
Oed: 12+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
Rhybuddion: Synau uchel ac iaith gref bosibl. Cyfeiriadau at fawrolaeth, galar yn ymwneud â galar, PTSD, creulondeb i anifeiliaid a/neu marwolaeth anifeiliaid.
Amserlen Penwythnos Rhagddangosiadau Caeredin!
Gwe 19 Gor | 7pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) |
8.30pm | Blodwen's in Business (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sad 20 Gor | 7pm | The Emu War: A New Musical (12+) |
8.30pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sul 21 Gor | 2.30pm | Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit (12+) |
4pm | The Emu War: A New Musical (12+) | |
5.30pm | Blodwen's in Business (18+) |
IECHYD DA!
Cofiwch gyrraedd mewn digon o amser fel y gallwch chi fwynhau diod o Teras, ein bar awyr agored, sydd tu allan i fynedfa Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.