Sexy Rude Harp Concert; taith un fenyw i fachu, ymhlith pethau eraill... mae Hickman yn dod â disgleirdeb, cynhesrwydd, a thair cân Gymraeg wefreiddiol i’r llwyfan yn y cyngerdd telyn yma a fydd yn gwneud i chi chwerthin, crio, ac os bydd rhaid... meddwl.
Cawson ni ein syfrdanu gan Sam fel un o’r bobl gyntaf i berfformio yn Cabaret yn ystod ein penwythnos agoriadol ym mis Chwefror 2023. Croeso ’nôl, Sam! Allwn ni ddim aros i glywed beth sydd gen ti’n barod ar gyfer Caeredin.
"Imagine Drag Race's Michelle Visage mixed with the musical and comedic ability of Victoria Wood and you have Sam Hickman."
Amser dechrau:
Gwe 19 Gorffennaf 10pm
Sad 19 Gorffennaf 10pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Synau uchel ac iaith gref
Amserlen Penwythnos Rhagddangosiadau Caeredin!
Gwe 19 Gor | 7pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) |
8.30pm | Blodwen's in Business (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sad 20 Gor | 7pm | The Emu War: A New Musical (12+) |
8.30pm | Lewys Holt: My Extremely Skilled Staff... (18+) | |
10pm | Sam Hickman: Sexy Rude Harp Concert (18+) | |
Sul 21 Gor | 2.30pm | Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit (12+) |
4pm | The Emu War: A New Musical (12+) | |
5.30pm | Blodwen's in Business (18+) |
IECHYD DA!
Cofiwch gyrraedd mewn digon o amser fel y gallwch chi fwynhau diod o Teras, ein bar awyr agored, sydd tu allan i fynedfa Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.