Dyma estyn gwahoddiad i chi: mae’r efeilliaid amddifad, The Creepy Boys, yn cynnal eu parti pen-blwydd yn 13 oed.
Bydd popeth yno. Gemau. Anrhegion. Satan o bosib. Cacen fwy na thebyg. Gan gyfuno caneuon secsi’r 2000au, defodau satanaidd, a Willam Dafoe, bydd y bechgyn bach horni yma’n gwneud unrhyw beth i sicrhau bod eu breuddwydion pen-blwydd yn cael eu gwireddu.
Dyma un parti pen-blwydd na ddylech ei fethu.
Mae’r efeilliaid yn recriwtio’r gynulleidfa i’w helpu i baratoi’r parti – gyda’r holl barch a chyswllt llygad y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn parti pen-blwydd efeilliaid yn eu harddegau – cyn gyrru’r sioe oddi ar glogwyn comedi-arswyd. Dychmygwch gyfuniad o’r efeilliaid yn The Shining a My Super Sweet 16.
Drwy ddawnsio rhywiol, gemau parti, ac ail-greu eu genedigaethau eu hunain, mae’r Creepy Boys yn gwthio’r helynt i’r pwynt o aberthu gwaed, gan archwilio hiraeth mileniaid ar yr un pryd. Gan y cariadon-go-iawn-sydd-nawr-yn-efeilliaid-unfath, Sam Kruger (Enillydd - Gwobr Gomedi Just for Laughs 2019) ac S.E. Grummett (Enillydd - Theatr Gorau, Adelaide Fringe 2021), dyma gomedi ryfedd gyda blas o’r goruwchnaturiol.
ENILLYDD - Gwobr Lustrum am Sioe Fythgofiadwy - Summerhall, Gŵyl Cyrion Caeredin 2023
ENWEBWYD - Gwobr Rhagoriaeth Gŵyl Cyrion Brighton
"Blisteringly anarchic and devilishly clever"
"A brilliant piece of theatre”
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, synau uchel a goleuadau sy’n fflachio bosibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.