Pan mae Seska’n dod i’r golwg, mae plant yn chwerthin dros y lle, mae tadau’n torri gwynt, ac mae mamau’n llewygu wrth ei draed!
Yn fwy gwallgo na chanfod pengwin yn eich oergell, mae Seska a’i egni’n taflu bwcedi o hapusrwydd i’r awyr yn y sioe hud hynod o ddyfeisgar yma ar gyfer pobl o bob oed.
Yn diddanu cynulleidfaoedd o Mumbai i Trinidad, dyma un o ffefrynnau Camp Bestival – mae’n sioe gwerth ei gweld!
Enillydd YSBRYD YR ŴYL Gŵyl Cyrion Colchester
Enwebwyd SIOE ORAU I’R TEULU – Gŵyl Gomedi Caerlŷr
Enwebwyd SIOE ORAU I’R TEULU – Gŵyl Cyrion Brighton
Enillydd SIOE UNIGOL ORAU – Gŵyl Gelfyddydau Banjul
‘One of the world's top comedy magicians'
‘Quite simply one of the best comedy magicians entertaining families in the UK'
'The bombardment of sounds, music, colours and Seska’s infectious, quick-fire energy means that even the most fidgety of children will be spellbound for 50 minutes of silliness'
Amser dechrau:: 3.30pm, 2.30pm drysau
Oed: 5+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
PLANT, ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.