Camwch i fyd hypnotig Shafeeq Shajahan gyda thaith gabare sy’n gweithio trwy haenau ei dreftadaeth gwiar Fwslimaidd.
Yn deyrnged i’r ffilm Bollywood o 1978, mae Satyam, Shivam, Sundaram yn archwiliad cyfoes o hunaniaeth a metamorffosis, gan ddathlu’r daith o ailgysylltu â chartref a adawyd ar ôl.
Mewn cydweithrediad â’r cyfansoddwr o Cyprus, Vasilis Konstantinides, mae’r ddeuawd yn uno cerddoriaeth y byd i adlewyrchu helyntion eu hachau gyda chyfeiriadau sinematig eiconig.
Wedi’i hysbrydoli gan wrthryfeldod nwydus actoresau Bollywood, mae llais cwiar Mwslimaidd Shafeeq yn torri trwy aflafaredd byd sy’n gynyddol elyniaethus.
Dylech ddisgwyl cael eich goleuo a’ch diddanu wrth iddo adrodd straeon am ei fagwraeth fel ‘Mwslim sy’n meddwl’, ei brofiadau ar Grindr, a’i bererindod i Haj.
Mae Satyam, Shivam, Sundaram yn daith gerddorol hudol, sy’n datgelu’r gwirionedd, y dwyfoldeb, a’r harddwch sy’n ein huno ni i gyd.
Clodrestr
Awdur a Chyfarwyddwr
Shafeeq Shajahan
Cyfansoddwyr
Vasilis Konstantinides a Shafeeq Shajahan
Perfformwyr
Shafeeq Shajahan
Vasilis Konstantinides
Nabilah Hamid
Badrika Baluch
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, synau uchel
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.