Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Uchafbwyntiau Hydref 2024

Mae’r dail bron yn barod i grensian dan draed ac mae hetiau a chotiau gaeaf ar hyd y wlad yn aros i ddod allan o gefn y cwpwrdd dillad.

Ydy, mae’r hydref ar y gorwel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at nosweithiau clyd yn mwynhau sioeau cerdd o safon fyd-eang, drama arswydus, cerddoriaeth fyw wych a pherfformiadau cabaret chwareus.

Sioeau Cerdd Eiconig

Mae dwy sioe gerdd fyd-enwog yn dod i’n llwyfan dros y misoedd nesaf. Gyda’r addasiad ffilm ar y gorwel hefyd, daw Wicked a’i swyn i Fae Caerdydd 24 Hydref–23 Tachwedd. A bydd Hamilton, ffenomenon diwylliannol Lin-Manuel Miranda yn cyfuno hip-hop, jazz, blues, rap, R&B a cherddoriaeth Broadway o 26 Tachwedd tan fis Ionawr.

Opera Hudolus

Daw Opera Cenedlaethol Cymru â ffraethineb, angerdd, emosiwn a drama i’n llwyfan gyda Rigoletto gan Verdi ac il trittico gan Puccini. Archebwch docynnau i’r ddwy opera i arbed 10%.

Drama Newydd

Wrth eich bodd ag arswyd? Yna mynnwch docyn i gynhyrchiad diweddaraf Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi’n bwrw eira un Diwrnod Santes Dwynwen ac mae arswyd yn y gwynt ym Mhont-y-pŵl...

Yn seiliedig ar y ddrama radio wreiddiol gan Tony Burgess a ysbrydolodd y ffilm arswyd boblogaidd o 2008, mae PONTYPOOL yn addasiad llwyfan newydd gan Hefin Robinson o’r stori a drawsnewidiodd y genre sombi.

Un Noson yn Unig

Mynnwch docyn i un o’r nosweithiau arbennig yma: bydd seren y West End, Carrie Hope Fletcher, yn trafod cariad yn ei holl amrywiaeth yn ei sioe hyfryd Love Letters; gwyliwch y seren bop oesol, Rick Astley, yn trafod Never – ei hunangofiant gwych; byddwch yn barod am noson o hudoliaeth, dawnsio a chanu anhygoel gydag Everybody Dance yng nghwmni seren y grŵp Steps, Claire Richards; dathlwch ddegawd o’r podlediad poblogaidd No Such Thing As A Fish; ac ymunwch â Dick ac Angel, sêr y rhaglen deledu Escape to the Chateau, wrth iddynt rannu eu stori unigryw ac anturus o adeiladu a byw mewn chateau.

Llais

Mae Llais, ein gŵyl ryngwladol flynyddol, 'nôl yr hydref yma, gyda cherddoriaeth fyw arloesol, perfformiadau sy’n procio’r meddwl a chreadigrwydd diderfyn. Mae'r artistiaid yn cynnwys Joan As Police Woman, Georgia Ruth a’r enillwyr Gwobr Grammy, Sweet Honey In The Rock.

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys If I Could Only Remember My Name, noson i ddathlu talent gerddorol unigryw’r cyfansoddwr Americanaidd o fri, David Crosby, aelod o The Byrds a Crosby, Stills, Nash & Young, a fu farw’r llynedd. Bydd yr artistiaid Mike Scott (The Waterboys), Liam Ó Maonlaí (Hothouse Flowers), Kris Drever (Lau), The Staves a Zervas & Pepper yn perfformio.

Bydd yr ŵyl yn cloi gyda Fantastic Racket, arddangosiad o leisiau eiconig o feysydd cerddoriaeth, llyfrau, celf a thu hwnt. Gan gynnwys Sara Pascoe, Irvine Welsh, Charlotte Church + Le Gateau Chocolat, Hollie McNish, Carys Eleri a mwy. Porwch y raglen lawn a chofiwch fanteisio ar ein cynnig aml-docyn i wneud y mwyaf o’r ŵyl.

Profiadau Ymdrochol

Mae ymwelwyr wedi disgrifio Bocs, ein cartref ar gyfer profiadau ymdrochol, fel “pryd o fwyd â seren Michelin i’r synhwyrau", a dros yr hydref byddwn ni'n cyflwyno dau ddigwyddiad ymdrochol sydd wedi ennill gwobrau.

Rhwng 1 Hydref a 3 Tachwedd byddwn ni'n cyflwyno Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin. Camwch yn ôl i Montgomery, Alabama, 2 Mawrth 1955. Mae Claudette, merch Ddu 15 oed yn teithio ar fws ac yn gwrthod ildio’i sedd i deithiwr gwyn, naw mis cyn i Rosa Parks wneud yr un peth a newid hanes. Profiad realiti estynedig unigryw. Tocynnau am £10.

Hefyd yn ystod Llais (9–13 Hydref) bydd Only Expansion yn cyfareddu cynulleidfaoedd gyda’i fyfyrdod dwys a barddonol ar fywyd ar blaned mewn argyfwng. Tocynnau ar gael wrth gyrraedd ar sail talwch fel y gallwch, a gallwch chi gasglu eich clustffonau o Bocs.

Cabaret Chwareus

Rydyn ni’n cyflwyno sioeau cabaret doniol, cwiar, llon bob penwythnos. Ymunwch â ni ar gyfer y seren TikTok, Christopher Hall; bydd beirniad sioe RuPaul’s Drag Race Down Under, Rhys Nicholson, yn dychwelyd gyda’u cyngerdd o gomedi stand-yp newydd sbon; paratowch ar gyfer Calan Gaeaf gyda Cŵm Rag: Nos Galan Gay-AF, a mwynhewch noson o adloniant cwiar De Asiaidd gwych gydag Asian Purrsuasion.

Cymerwch olwg ar y rhaglen lawn – mae amrywiaeth eang, gan gynnwys digwyddiadau i’r plantos. Hwyl i bawb!

Torri Syched

Beth am gloi’r noson gyda diod fach yn Ffwrnais, ein bar-caffi hyfryd? Trafodwch y ddrama rydych newydd ei gweld, neu ymlaciwch gyda ffrindiau ar ôl noson yn y theatr. Mae deiliaid tocynnau yn arbed 10% ar bris diodydd ar ôl y sioe.   

Wrth eich bodd â theatr? Ymaelodwch ac fe gewch y seddi gorau yn ein theatr yn ogystal â gostyngiad ar bris bwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.